








Mae Treuddyn yn bentref gwledig bychan yn Sir y Fflint, Gogledd Cymru ar ffordd yr A5104 sy’n cysylltu â Llangollen, Corwen, Y Bala a Pharc Cenedlaethol Eryri i’r gorllewin a Chaer a Swydd Gaer yn y dwyrain.
Yn hanesyddol mae’n gymuned ffermio a chloddio ond, erbyn hyn, mae’n bentref i gymudo ohono i raddau mawr gyda phoblogaeth o oddeutu 1500. Y trefi lleol mwyaf yw’r Wyddgrug (4 milltir), Wrecsam (7 milltir) a Dinas Caer (13 milltir).
Er ei fod yn agos at y ffin rhwng Cymru a Lloegr, mae Treuddyn yn falch iawn o’i Gymreictod. Mae’r wefan hon yn ddwyieithog ac mae opsiwn ar frig pob tudalen i’w darllen naill ai yn y Gymraeg neu yn y Saesneg. Gallwch symud o un iaith i’r llall unrhyw bryd.