Gŵyl Treuddyn 2013
Yn ôl y disgwyl yn yr haf ofnadwy hwn, mi gawson ni dywydd anffafriol braidd ar gyfer yr ŵyl eleni…
Yn ôl Carolyn Thomas “mi ddaru ni godi’r pebyll, trefnu’r offer a pharatoi popeth arall mewn glaw o fore llwm tan nos Wener. Roedd y tir o fewn y pebyll yn faw i gyd, ac roedd gosod stondinau fore Sadwrn yn anodd oherwydd roedd y tir mor feddal. Mi oedd ceisio dod o hyd i le i bob stondin yn y rhannau o’r maes oedd yn addas yn dipyn o her. Mi gawson ni gawod ofnadwy ar ddechrau’r ŵyl am un o’r gloch ond wedi hynny daeth awyr las yn fendith uwch ein pennau a daeth y dyrfa ynghyd! Rwy’n cofio cerdded o gwmpas o dan bwysau fy nghyfrifoldeb i sicrhau bod pawb yn iawn, ond mi welais olygfa i godi calon unrhyw drefnydd blinedig – yr awyr-gerddwr a phobl y syrcas o flaen y pebyll lliwgar o dan wybren sych ac yng nghanol llu o bobl o bob oedran yn mwynhau. Llwyddiant! Roedd y rhyddhad yn enfawr are ôl gymaint o waith caled gan gynifer o bobl!
Bu’n rhaid gohirio’r bencampwriaeth pêl-droed ar fore Sadwrn. Roedd yn benderfyniad anodd i siomi’r nifer uchel o dimoedd oedd wedi ymuno. Roedd y cyfan yn barod i fynd, ar wahân i’r maes a oedd wedi dirywio yn y tywydd ofnadwy. Hei lwc y bydd yna gyfle i ail-drefnu rhywbeth os gawn ni Haf Bach Mihangel.
Mae’r rasys beicio i blant ar gyfer plant lleol ar nos Fawrth yn llwyddiant ysgubol, wrth i’r plant feithrin a hogi eu doniau ar ddwy olwyn. Roedd yn braf eu gweld yn arddangos y doniau hynny yn ystod yr ŵyl, o’r rhai hŷn i’r aelod ieuengaf sy’n bump oed yn unig. Mi ddaeth timoedd o bell ac agos, gan gynnwys un o Iwerddon. Ac maen nhw mewn dwylo diogel – y cwmni a adeiladodd y cwrs yma sydd wedi adeiladu cwrs y Gemau Olympaidd (sydd hefyd yn gwrs eithaf da, medden nhw!).
Diolch o galon i bawb am eu llafur cariad ar ran yr ŵyl, i Crown Fuels am ei noddi ac i Fenter Iaith Sir y Fflint am dalu am y gweithdy syrcas.
(English) The Treuddyn Festival 2011 – a great success!! Photos.
(English) Your chance to see the first photos of the event.

Gŵyl Treuddyn 2012
Darllen Mwy »
Gŵyl Treuddyn 2011
Darllen Mwy »
Gŵyl Treuddyn 2010
Darllen Mwy »
Gŵyl Treuddyn 2009
translation to follow
Darllen Mwy »


