








Mae gwefan cymuned Treuddyn yn orchest fawr. Mae’n rhoi newyddion a gwybodaeth hanfodol i’r bobl leol ac yn ffenestr y gall y byd weld ein pentref drwyddi a dod i wybod am yr ardal a’i hanes. Dyma ein harddangosfa ni a bydd yn parhau’n bwysig iawn ac yn parhau i ddatblygu.
Does dim yn well na gweld gwefan fywiog pentref gyda’i newyddion, sylwadau ac eitemau sy’n adlewyrchu diddordebau amrywiol y bobl sy’n byw yno. Rhaid i ni wneud yn siŵr bod y wefan yma’n cael ei diweddaru bob amser, yn aros yn ddynamig ac yn rhoi adlewyrchiad gwir o’n Pentref. I gludo’r wefan yma ar ei thaith bydd angen llawer o ddwylo a llawer o ofal. Byddem wrth ein boddau’n rhoi’r canlynol ar y wefan:
Hoffem glywed eich awgrymiadau. Rhowch wybod i ni os oes gennych syniadau ar gyfer adrannau newydd neu ffyrdd o ddatblygu’r wefan ymhellach.
Cyfle Cyffrous
Mae’r wefan yn ifanc iawn – mae llawer mwy ar y gweill a bydd yn parhau i dyfu a datblygu. Rydym angen pobl sydd eisiau gwneud cyfraniad gwerthfawr:
Gallech helpu i roi’r wybodaeth i mewn/diweddaru’r wybodaeth sydd yno’n barod ac mae hyfforddiant ar gael i ddysgu sut i wneud hyn.
Os ydych yn siarad Cymraeg ac eisiau helpu i gyfieithu eitemau a roddwn ar y wefan, mae croeso mawr i chi.
Cysylltwch â ni ynglŷn ag unrhyw rai o’r pethau yma – Ebost: info@treuddyn.org.uk
y