Hanes Diwydiannol

Cyn y 18fed Ganrif, roedd ardal Treuddyn (gan gynnwys pentref cyfagos Coed Talon), yn dibynnu fwyaf ar amaethyddiaeth gyda rhywfaint o waith chwarela ychwanegol i gefnogi’r economi lleol. Roedd rhywfaint o waith glo hefyd mewn pyllau a chloddfeydd drifft ond dim ond ar raddfa fechan.

Pan ddechreuodd y Chwyldro Diwydiannol cynyddodd y galw am lo yn enfawr ac aeth pobl ati i archwilio gwythiennau glo oedd heb gael eu hagor o’r blaen. Agorwyd pyllau i dynnu’r glo allan mewn gwahanol ddulliau  – cloddfa ddrifft / ceuffordd, pyllau cloch a chloddio siafft fertigol dwfn. Roedd yn rhaid cario’r glo o’r pyllau yma at y cwsmeriaid felly, yn 1849, estynnodd y cwmnïau trên y rheilffordd o Padeswood (drwy Bontyblyddin) i Goed Talon. Erbyn 1868 roedd y rheilffordd yma wedi’i ymestyn i gynnwys Yr Wyddgrug, ac yn ddiweddarach roedd ymestyniadau’n cysylltu Treuddyn gyda Llanfynydd, Ffrith, Brymbo a Wrecsam. Wrth i byllau newydd gael eu sefydlu yn yr ardal, cafodd y rhwydwaith ei ymestyn i’w cysylltu â’i gilydd.

Gwaith Coed Talon

Yn ogystal â’r gwaddodion glo a gafwyd ac a ddefnyddiwyd, cafwyd hyd i wythïen o fwyn haearn a sefydlwyd Gwaith Haearn Coed Talon a’i gysylltu gyda’r pyllau glo gyda thramffordd fach gul. Erbyn 1815 roedd rhwydwaith o ddiwydiannau cysylltiedig wedi’i sefydlu ac, yn ddiweddarach, roedd yn cynnwys ffyrnau golosg, gwaith brics, ffwrneisi, yn ogystal â’r gwaith haearn a phyllau.

Cydnabyddiaeth i’r ffynonellau, y Canon Ellis Davies : Prehistoric and Roman Remains of Flintshire, Dewi Roberts, Ken Ll. Gruffydd, Ken Jones

Credyd am y lluniau

cadwyn-clwydflintshire-partnershipwag

Cynllun a datblygiad y wefan: Colony of Ants

Mae'r wefan hon wedi'i phweru gan WordPress