Pobl

Mae cyfrifiad 1801 yn dangos poblogaeth Treuddyn fel 464. Erbyn 1851 roedd hyn wedi codi’n ddramatig i 1123. Cyrhaeddodd poblogaeth y pentref ei uchaf, sef 1951 o bobl, yn 1871 ac yna gostyngodd i 1360 erbyn 1891. Arhosodd y boblogaeth yn rhyfeddol o sefydlog am y 90 mlynedd nesaf, sef oddeutu 1300 o bobl, ond cododd i 1541 yng nghyfrifiad 1991.

Cyn 1753 yr unig addysg yn yr ardal oedd addysg gan feistri ysgol oedd yn cael eu talu trwy roddion caredig ond roedd hyn yn golygu mai’r unig addysg oedd ar gael oedd addysg sylfaenol am un diwrnod yr wythnos. Ym mis Ionawr 1753, adeiladwyd ystafell ysgol ac roedd hon i gael ei rhedeg gydag arian o gymynrodd gan deulu Hyde o Neuadd Nercwys, wedi’i gweinyddu gan Ymddiriedolwyr. Hefyd, roedd disgwyl i deuluoedd dalu am addysg a llyfrau felly nid Ysgol Elusen oedd hon yng ngwir ystyr y gair. Erbyn 1820 adeiladwyd ystafelloedd ychwanegol, a thalwyd am y rhain gan aelod arall o deulu Hyde, fel bod lle ar gyfer y nifer cynyddol o blant yn yr ardal. Dylid nodi mai dim ond bechgyn y pentref fyddai’n cael eu haddysgu bryd hynny mae’n debyg.

Yn 1844 cyflwynwyd cynlluniau i adeiladu Ysgol Genedlaethol ar y tir lle mae Llys Degwm heddiw ar Queen Street a Ffordd y Llan. Mae’r teitl ‘Cenedlaethol’ yn dod o’r enw llawn am yr awdurdod sef y Gymdeithas Genedlaethol ar gyfer Hybu Addysg y Tlawd yn Egwyddorion yr Eglwys Sefydledig. Agorwyd hon yn 1845 a chafodd ei hybu gan yr Eglwys. Mae cofnodion yn dangos bod oddeutu 40 o blant wedi’u cofrestru yn yr ysgol er bod 200 o blant yn y pentref. Erbyn yr 1870au cynlluniwyd ysgol newydd i gymryd nifer uwch o blant a chafodd hon ei hadeiladu ar y gyffordd rhwng Queen Street a Ffordd y Llan – dyma fyddai’r ysgol fabanod. Parhaodd y ddwy ysgol i redeg hyd 1953.

Yn 1885 sefydlwyd ysgol yng Nghoed Talon hefyd, a’i henw gwreiddiol oedd ‘Ysgol Fwrdd Tryddyn’ er bod yr enw wedi newid yn 1904 i ‘Ysgol Gyngor Coed Talon’. Cychwynnodd yr ysgol yma gyda 43 o ddisgyblion ond tyfodd yn gyflym ac erbyn 1904 roedd 157 o ddisgyblion ar ei chofrestr. Dros amser ychwanegwyd mwy o ystafelloedd i roi lle i’r niferoedd uwch. Yn 1950 daeth yr ysgol yn ysgol cyfrwng Cymraeg am gyfnod byr ond daeth hyn i ben yn 1953 pan adeiladwyd Ysgol Terrig newydd a hi oedd yr ysgol cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Trodd Ysgol Coed Talon yn ôl i ddysgu trwy gyfrwng y Saesneg ac arhosodd yn agored tan fis Medi 1992 pan gaeodd a symudodd yr ysgol Saesneg i Ysgol Parc y Llan. Roedd hon yn adeilad newydd gerllaw Ysgol Terrig ar Gampws Treuddyn.

Cydnabyddiaeth i’r ffynonellau, y Canon Ellis Davies : Prehistoric and Roman Remains of Flintshire, Dewi Roberts, Ken Ll. Gruffydd, Ken Jones


cadwyn-clwydflintshire-partnershipwag

Cynllun a datblygiad y wefan: Colony of Ants

Mae'r wefan hon wedi'i phweru gan WordPress