Clawdd Offa

Beth yw Clawdd Offa?

Mae Clawdd Offa’n wrthglawdd rhyfeddol sy’n 1200 o flynyddoedd oed. Mae’n rhedeg drwy ardaloedd y gororau rhwng Cymru a Lloegr o Dreuddyn (ger Wrecsam yng ngogledd ddwyrain Cymru) i Glogwyni Sedbury (ar aber yr Afon Hafren, yn neheubarth Swydd Gaerloyw).

Mae’r ysgolor o Gymru, Asser, a fu’n ysgrifennu tua chanrif ar ôl cyfnod tybiedig adeiladu Clawdd Offa, yn enwog am ddisgrifio’r clawdd fel un sy’n cysylltu ‘o fôr i fôr’. Er nad yw archeolegwyr wedi gallu cadarnhau’r honiad yma – mae bylchau mawr amlwg yn Swydd Henffordd ac ardaloedd eraill – mae’r 129 cilomedr o wrthglawdd sy’n weddill yn dal i fod yn gofadail hynafol hiraf Prydain. Yr hyn yw’r Clawdd yw clawdd o dir all fod hyd at 8 metr o uchder, a chanddo ffos i’r gorllewin, ac fel arfer mae’n codi’n amlwg yn y tirlun ac ohono ceir golygfeydd hardd ac atyniadol o Gymru. Does neb yn gwybod sut olwg oedd ar y Clawdd yn union pan gafodd ei adeiladu gyntaf, ond mae gwaith cloddio archeolegol yn awgrymu bod ochr orllewinol y clawdd wedi’i rybedu gyda thywyrch i greu wyneb bron yn fertigol, ac mae’n bosibl bod rhyw fath o balisâd neu wal ar ben y gwrthglawdd hefyd.

Clawdd Offa yw’r cofadail mwyaf trawiadol o’i fath unrhyw le yn Ewrop, ac ni welwyd prosiect adeiladu o raddfa gymaradwy yn y tirlun am 1,000 o flynyddoedd arall nes cychwynnwyd cynlluniau camlesi mawr y 18fed ganrif. Mae’n un o lwyddiannau peirianneg mawr y cyfnod cyn yr oes ddiwydiannol a dyma’r strwythur adeiledig mwyaf dramatig i oroesi ers cyfnod yr Eingl-Seisnig – felly mae’n dystiolaeth hanfodol o gyfnod allweddol yn hanes Prydain sydd heb adael fawr o weddillion gweladwy.

Hyd yn oed heddiw, mae pobl sy’n ymweld â’r Clawdd yn rhyfeddu ar unwaith mor fawr oedd y dasg o’i adeiladu. Mae’n rhaid i chi gerdded ar hyd y Clawdd i gael syniad iawn o ba mor eithriadol ydyw fel cofadail. Yn gyntaf byddwch yn sylweddoli beth yw maint y gwrthglawdd a pha mor enfawr oedd y dasg o’i adeiladu a chloddio’r ffos gyda dim byd mwy nag offer llaw. Yna byddwch yn gwerthfawrogi’r sgiliau cynllunio a pheirianneg ar gyfer gosod y Clawdd yn ei dirlun dim ots a yw’n dilyn Dyffryn Gwy yn Swydd Gaerloyw, gan ddefnyddio ymylon, cribau a llethrau ardal Clun yn Swydd Amwythig, neu’n gorymdeithio’n benderfynol ar draws yr iseldir i’r dwyrain o Sir Drefaldwyn. Yn olaf, rydych yn dechrau meddwl am y gwaith trefnu a’r logisteg sy’n sail i brosiect adeiladu fel yma, a’r rheolaeth wleidyddol a systemau gweinyddol soffistigedig oedd yn sylfaen i’r gwaith. A chafwyd hyn oll mewn cyfnod yr oedd pobl yn arfer cyfeirio ato fel yr ‘Oesoedd Tywyll’.

Offa a Hanes y Clawdd

Yr ‘Offa’ yn yr enw Clawdd Offa oedd Brenin Teyrnas Eingl-Seisnig Mersia o 757-796 AD. Roedd Mersia wedi’i seilio ar yr hyn yw Canolbarth Lloegr heddiw, ac roedd yn un o nifer o Deyrnasoedd annibynnol oedd wedi dod i’r amlwg ynghanol neu yn ail hanner y mileniwm cyntaf OC o estyniad graddol rheolaeth wleidyddol yr Eingl-Seisnig ar draws llawer o’r hen Brydain Ru

feinig. Trwy ymgyrchoedd milwrol a chynghreiriau gwleidyddol, sefydlodd Offa reolaeth Mersia dros y mwyafrif o’r tir a alwn yn Lloegr erbyn heddiw. Er mai ychydig iawn o ddogfennaeth hanesyddol uniongyrchol yn ymwneud ag Offa sydd wedi goroesi, gallwn gael cipolwg o hyd ar arweinydd pwerus a gwleidydd craff oedd yn cael ei drin fel dyn cydradd gan Siarlymaen, rheolwr Ewropeaidd mwyaf yr oes.

A section of Offa's Dyke at Discoed

Clawdd Offa yw’r dystiolaeth orau sydd gennym o bŵer a chyflawniad Offa. Gallwn ystyried adeiladu’r Clawdd fel cais i resymoli ffin orllewinol rhwng Mersia a’r Teyrnasoedd Prydeinig (Cymreig) annibynnol oedd i’w cael ar y pryd yn yr ardal lle mae Cymru heddiw, yr oedd Offa wedi brwydro yn eu herbyn heb lwyddo bob tro mewn nifer o ymgyrchoedd milwrol. Roedd Syr Cyril Fox, archeolegydd a wnaeth astudiaeth arloesol o’r gwrthglawdd y

n yr 1920au a’r 1930au, yn dehongli’r Clawdd fel yr hyn a gafwyd o ganlyniad i gytundeb wedi’i negodi rhwng Mersia a theyrnasoedd Cymru. Yn fwy diweddar, mae ymchwilwyr megis Frank Noble a David Hill yn esbonio’r Clawdd yn fwy fel gwrthglawdd uniongyrchol amddiffynnol a adeiladwyd yn amlwg er budd pobl Mersia mewn cyfnod o ansefydlogrwydd parhaus ar hyd yr hyn yr oeddent yn ei ystyried yn ffin.

Mae gan wrthglawdd mawr Offa arwyddocâd hanesyddol y tu hwnt i gyd-destun uniongyrchol Mersia hynafol. Mae’r Clawdd yn esiampl o brosesau o ganoli gwleidyddol cynyddol ledled y Brydain Eingl-Seisnig a’r Ewrop gyfoes a oedd yn y pendraw i arwain at ymddangosiad y parthau daearyddol a diwylliannol – megis Lloegr a Chymru – yr ydym yn byw ynddynt heddiw. Yn wir, gellid dweud bod y Clawdd ei hun wedi dylanwadu’n uniongyrchol ar ddatblygiadau o’r fath, yn arbennig mewn perthynas â dechreuad hunaniaeth Gymreig wleidyddol gydlynol yn y cyfnod canoloesol cynnar. Er nad oedd wedi para’n hir fel ffin Eingl-Seisnig/Mersiaidd gweithredol, efallai bod ei fodolaeth o hyd fel llinell amlwg yn rhannu’r tirlun wedi parhau fel datganiad ideolegol pwerus o’r gwahaniad amlwg rhwng pawb yn y gorllewin a’r Brydain ‘Seisnig’, gan helpu i greu teimlad cyffredin o undod ymysg pobl Cymru nad oedd wedi bodoli cynt.

Safbwyntiau Eraill

Efallai ei fod yn brawf o etifeddiaeth hirsefydlog Clawdd Offa ei fod yn parhau i ddenu cymaint o ddyfalu ymysg pobl am ei wreiddiau, gyda rhai ysgrifenwyr modern hyd yn oed yn cwestiynu’r cysylltiad gydag Offa a Mersia hynafol. Er enghraifft, cafwyd awgrymiadau bod y Clawdd yn llwybr llawer cynharach, ac mae un dadansoddiad o gyd-destun daearyddol myth y Brenin Arthur wedi honni mai wal Rufeinig ‘coll’ Septimius Severus yw’r Clawdd ar sail cyfeiriadau at wal o’r fath mewn testunau Rhufeinig hwyr a chanoloesol cynnar.

A section of Offa's Dyke that forms the English/Welsh border at Bron-y-Garth

Byddai’n wallus gwrthod dadleuon o’r fath am eu bod yn cynnig dehongliadau mor wahanol i’r farn arferol, ond mae’n bwysig sylweddoli bod rhesymau da iawn am ddyddio Clawdd Offa’n gyffredinol yn y cyfnod Eingl-Seisnig. Gallwn ei gymharu agosaf â chloddiau eraill megis Clawdd Wat gerllaw neu Wansdyke yn Wiltshire – sydd yn debygol o ddyddio o gyfnod Eingl-Seisnig, ac ar yr un pryd mae’n wahanol iawn yn ei fanylion i gofadail Rufeinig megis Mur Hadrian. Er nad oes dyddiad pendant fel y gallem ei gael o arysgrif amlwg wreiddiol ar adeilad neu gyfres o ddyddiadau radio carbon, mae pobl yn derbyn bod Clawdd Offa’n dyddio o gyfnod Eingl-Seisnig.

Clawdd Offa – ffin i gychwyniad Prydain

Mae systemau clawdd Eingl-Seisnig byrrach ym Mhrydain, ac heb os mae’r rhain yn bwysig a thrawiadol ac rydym yn ffodus hefyd bod gennym esiamplau mor wych yn dal i fodoli o bensaernïaeth eglwysi Eingl-Seisnig – ond ni allwn gyffwrdd y cyfnod ffurfiannol hwnnw yn hanes Prydain yn unman arall mewn ffordd mor ddramatig ag y gallwn filltir ar ôl milltir ar ôl milltir ar Glawdd Offa.

cadwyn-clwydflintshire-partnershipwag

Cynllun a datblygiad y wefan: Colony of Ants

Mae'r wefan hon wedi'i phweru gan WordPress