








Mae Taith Hamdden Sir y Fflint yn pasio drwy bentref Treuddyn. Sefydlwyd y daith yrru gron yma, sydd ag arwyddion drwyddi draw, gan Gymdeithas Twristiaeth Sir y Fflint mewn cydweithrediad â Chyngor Sir y Fflint.
Lluniwyd y daith fel bod modd i chi weld rhai o safleoedd mwyaf prydferth a hanesyddol y sir a darllen disgrifiadau a manylion eu hanes ar yr un pryd. Mae’r daith gyfan yn 83 milltir ond mae wedi’i rhannu’n 9 adran hawdd eu cwblhau. Mae adran 6 yn dod â chi drwy Dreuddyn.
Mae Taith Hamdden Sir y Fflint oddeutu 83 milltir ac mae wedi’i rhannu’n naw adran wahanol.
Mae’r dolenni isod yn cynnwys map ar gyfer bob adran a disgrifiad o’r mannau allweddol sydd o ddiddordeb ar hyd y ffordd.
Y ddolen gyntaf yw’r brif dudalen –
http://www.siryfflint.gov.uk/cy/LeisureAndTourism/Tourism/Flintshire-Leisure-Tour.aspx